TV Producer
Description
Cynhyrchydd Ffeithiol
Rydym yn chwilio am Gynhyrchydd Ffeithiol i ymuno â thîm Rondo ar amryw o raglenni cyffrous. Mae’r rôl yn berffaith ar gyfer unigolyn profiadol, creadigol ac egnïol sy’n mwynhau ac yn deall y broses o greu cynnwys ar draws y platfformau llinol a digidol.
Bydd disgwyl i’r Cynhyrchydd Ffeithiol fod yn gyfrifol am greu cynnwys apelgar, sy'n gywir ac yn gyffrous. Bydd disgwyl iddynt oruchwylio’r broses gynhyrchu gyfan, o ddatblygu’r cysyniad drwy ymchwilio a gwirio gwybodaeth i gydlynu ag aelodau amrywiol o’r tîm; rheoli cyllidebau ac amserlenni a sicrhau bod y rhaglen derfynol yn gwireddu'r weledigaeth ac yn bodloni safonau rheoliadau darlledu.
Bydd y Cynhyrchydd Ffeithiol yn allweddol i siapio strategaeth ddigidol a golygyddol y cynyrchiadau ar y cyd gyda’r Uwch-Gynhyrchydd a byddant hefyd yn cael eu hannog i ddatblygu syniadau newydd i ennill comisiynau pellach i’r cwmni.
Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn blaengar greu cynnwys cyffrous a beiddgar.
Mae Rondo Media yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o safbwyntiau a chefndiroedd amrywiol.
Lleoliad: Caernarfon neu Caerdydd, gyda’r disgwyl i weithio ar leoliadau ledled Cymru a’r gallu hefyd i weithio’n hyblyg.
Cyflog: I’w drafod
Cytundeb: Blwyddyn i gychwyn
Oriau: 5 diwrnod yr wythnos
Dyddiad cau: 14/04/2025
The above advert is for the post of Factual Producer for which the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.Company Name
Location
Caernarfon neu gellir ystyried Caerdydd
Posted on
19th Mar 2025
Apply by
15th Apr 2025